1 Corinthians 5:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd yw‐chwi yn ymchyddo, ac yn gynt paam na thristaech, y’n y thynnit ymaith o’ch plith yr vn a wnaethoedd y weithred hon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fod gwraig ei dad gan ryw un; a chwithau ydych wedi eich chwyddo, ac ni fu i chwi yn hytrach alaru fel y rhoddid allan o’ch plith chwi yr hwn a wnaeth y weithred hon;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chwithau, ai chwyddedig ydych, ac heb alaru, — rheitiach peth, — fel y certhid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o'ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dych chi'n dal yn falch ohonoch chi'ch hunain? Dylai'r fath beth godi cywilydd arnoch chi! Dylech chi fod wedi'ch llethu gan alar! Pam dych chi ddim wedi disgyblu'r dyn, a'i droi allan o gymdeithas yr eglwys?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma chwi, yn llawn ymffrost! Onid eich lle chwi oedd galaru, a bwrw allan o'ch plith yr un a wnaeth y fath beth?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr ydych wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y cymmerid o'ch canol yr hwn a wnaeth y weithred hon.