1 Corinthians 5:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys my vi yn ddiau val yddwyf yn absen yn y corph, wyf yn bresēnol yn yr yspryt, a vernais eisioes megis pe byddwn presentol, pan yvv am yr hwn a wnaeth y peth hyn, gwedy y’wch ymgynnull ynghyt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys myfi yn wir yn absennol yn y corph ond yn bresennol yn yr yspryd, a fernais eisoes, fel pe bawn yn bresennol,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys myfi, yn absennol o ran y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, yn enw yr Arglwydd Iesu, wedi ymgynnull ohonoch chwi a’m hysbryd innau ynghŷd, gyda nerth ein Harglwydd Iesu, fel pe bawn bresennol, bernais eisoes am y sawl a gyflawnodd hyn yn y modd hwnnw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er fy mod i ddim gyda chi yn Corinth ar hyn o bryd, dw i acw yn yr ysbryd. Yn union fel petawn i gyda chi dw i wedi cyhoeddi'r ddedfryd
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd dyma fi, yn absennol yn y corff, ond yn bresennol yn yr ysbryd, eisoes wedi rhoi dyfarniad, fel un sy'n bresennol, ar y dyn a wnaeth y fath weithred:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys myfi yn wir, yn absennol yn y corph, ond yn bresennol yn yr yspryd, wyf eisoes wedi barnu, fel pe bawn bresennol, yr hwn yn y fath fodd a weithredodd hyn,