1 Corinthians 5:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan hynny certhwch yn ’lan yr hen levein, val y by dd och chvvi toes newydd, val ydd ych ddileveinllyt: can ys Christ ein Pasc a aberthwyt trosom.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Certhwch allan yr hen lefain fel y byddoch does newydd, fel yr ydych yn ddilefeinllyd; canys ein pasg a aberthwyd, sef Crist:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Certhwch allan yr hen lefain, fel y boch does newydd, megis yr ydych yn ddilefain. Canys aberthwyd ein Pasg ni, sef Crist;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid cael gwared ohono — ei daflu allan, a dechrau o'r newydd gyda thoes newydd heb unrhyw furum ynddo. Ac felly dylech chi fod, am fod y Meseia wedi ei aberthu droson ni, fel oen y Pasg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Glanhewch yr hen lefain allan, ichwi fod yn does newydd, croyw, fel yr ydych mewn gwirionedd. Oherwydd y mae Crist, ein Pasg ni, wedi ei aberthu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Certhwch allan yr hen lefain fel y byddoch yn dalp newydd, megys yr ydych yn ddilefeinllyd. Canys ein Pasc ni hefyd a aberthwyd, sef Crist;