1 Corinthians 6:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chyfryw oedd ’r ei o hanoch vvi: eithyr darfot ych golchi, eithyr darvot ych sancteiddio, eithr darvot ych cyfiawnhau yn Enw ein Arglwydd Iesu, a’ chan Yspryt ein Duw ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr golchwyd chwi; eithr sancteiddiwyd chwi; eithr cyfiawnhawyd chwi yn enw yr Arglwydd Iesu Grist ac yn Yspryd ein Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r pethau hyn oeddych, rai ohonoch; eithr ymolchasoch, eithr fe’ch sancteiddiwyd, eithr fe’ch gwnaed yn gyfiawn yn enw yr Arglwydd Iesu Grist a thrwy ysbryd ein Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a'ch gwneud yn bur. Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist a'r Ysbryd Glân wedi ei wneud drosoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyna oedd rhai ohonoch chwi; ond yr ydych wedi'ch golchi, a'ch sancteiddio, a'ch cyfiawnhau trwy enw'r Arglwydd Iesu Grist, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi a olchasoch ymaith eich pechodau, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhâwyd, yn enw yr Arglwydd Iesu Grist, ac yn Yspryd ein Duw ni.