1 Corinthians 6:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y mae pop peth yn gyfreithlon y mi: an d nad pop peth yn gwneuthur lles. Y mae pop peth yn rhydd ym, eithr ny bydda vi y dan awdurtot dim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I mi y mae pob peth yn gyfreithlawn, eithr nid pob peth yn llesol; i mi y mae pob peth yn gyfreithlawn, eithr arnaf fi nid awdurdodir gan ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae pob peth yn rhydd i mi, ond nid yw pob peth yn lleshau; rhydd yw pob peth i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i'n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae popeth yn gyfreithlon i mi," meddwch; ond nid yw popeth er lles. "Y mae popeth yn gyfreithlon i mi," meddwch; ond ni chaiff dim fy nghaethiwo i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, ond nid yw pob peth yn addas. Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, eithr ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim.