1 Corinthians 6:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Bwyd a ordeinivvyt ir bol a, a’r bol a ir bwydyð: a’ Duw a ddinistr bop vn or ðau. Weithian y corph nyd yw y ’odineb, anyd ir Arglwydd, a’r Arglwyð ir corph.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd; ond Duw a ddiddyma ef a hwythau. A’r corph nid i odineb y mae, eithr i’r Arglwydd, ac yr Arglwydd i’r corph;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y bwydydd i’r bola, a’r bola i’r bwydydd, ond diddyma Duw y naill a’r llall. A’r corff, nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd, a’r Arglwydd i’r corff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A'r corff nid yw i odineb, ond i'r Arglwydd; a'r Arglwydd i'r corff.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i'r stumog a'r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio'r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo'i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol — cafodd ei wneud i wasanaethu'r Arglwydd. Ac mae'r corff yn bwysig i'r Arglwydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y bwydydd i'r bol a'r bol i'r bwydydd," meddwch; ond fe ddifetha Duw y naill a'r llall. Eto, nid i buteindra y mae'r corff, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corff.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd: eithr Duw a ddiddymma hwn a hwythau. Eithr nid yw y corph i butteindra, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corph.