1 Corinthians 6:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A ny wyddoch vot eich cyrph yn aelodae i Christ? velly a gymeraf vinef aelodae Christ, a’u gwneuthu’r yn aelodae putain? Na ato Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Oni wyddoch am eich cyrph mai aelodau i Grist ydynt? Gan gymmeryd, gan hyny, aelodau Crist, a wnaf fi hwynt yn aelodau puttain?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni wyddoch mai aelodau Crist yw’ch cyrff chwi? Felly, a gymeraf i aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a'u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich cyrff chi yn rhannau o gorff y Meseia ei hun? Ydw i'n mynd i ddefnyddio fy nghorff (sy'n perthyn i'r Meseia) i gael rhyw gyda phutain? Na, byth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni wyddoch mai aelodau Crist yw eich cyrff chwi? A gymeraf fi, felly, aelodau Crist a'u gwneud yn aelodau putain? Dim byth!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oni wyddoch fod eich cyrph yn aelodau Crist? a gymmeraf fi ymaith gan hynny aelodau Crist, a'u gwneyd yn aelodau puttain? na wneler byth!