1 Corinthians 6:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any wyðoch, am yr hwn a ym lyn a p h utain, y vot yn vn corph? can ys y ddau, eb yr ef, vyddant vn cnawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na atto Duw. Oni wyddoch am yr hwn sy’n ymgyssylltu â phuttain, mai un corph yw? “Canys bydd (medd Efe) y ddau yn un cnawd;”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni wyddoch fod y neb a gydio â phutain yn un corff? Canys, medd ef, un cnawd fydd y ddau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda'r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” meddai'r ysgrifau sanctaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Neu oni wyddoch fod dyn sy'n ymlynu wrth butain yn un corff hi? Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud, "Bydd y ddau yn un cnawd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu, oni wyddoch fod yr hwn a unir â phuttain yn un corph? Canys y ddau, medd efe, a fyddant un cnawd.