1 Corinthians 6:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ciliwch rac godineb: pop pechat a wna dyn, o ddy allan y corph y mae: anyd yr hwn a wna ’odinep, a becha yn erbyn y gorph y hunan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ffowch oddiwrth odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’r corph y mae; ond yr hwn sy’n godinebu, yn erbyn ei gorph ei hun y mae yn pechu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ymogelwch rhag godineb. Pob pechod a wnêl dyn, y tu allan i’r corff y mae, ond y sawl a odinebo, yn erbyn ei gorff ei hun y mae’n pechu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i'w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Does dim un pechod arall sy'n effeithio ar y corff yr un fath. Mae'r person sy'n pechu'n rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffowch oddi wrth buteindra; pob pechod arall a wna rhywun, beth bynnag ydyw, y tu allan i'r corff y mae, ond y mae'r sawl sydd yn puteinio yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ffowch oddiwrth butteindra. Pob pechod a wnelo dyn, tu allan i'r corph y mae; ond yr hwn sydd yn putteinio sydd yn pechu yn erbyn ei gorph ei hun.