1 Corinthians 6:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any wyddoch, mae’r sainct æ a varnan y byt? A’s y byt gan hyny a vernir genw‐chwi, a ydyw‐chwi anteilwng y varnu am bethau o’r lleiaf?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Oni wyddoch mai y saint a farnant y byd? Ac os genych chwi y bernir y byd, ai annheilwng ydych i farnu’ r pethau lleiaf?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni wyddoch mai’r saint sydd i farnu’r byd? Ac os ger eich bron chwi y bernir y byd, a ydych yn anheilwng i farnu’r achosion distadlaf oll?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddoch chwi y barna'r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu'r pethau lleiaf?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “pobl Dduw yn mynd i farnu'r byd”? Felly os byddwch chi'n barnu'r byd, ydych chi ddim yn gallu delio gyda rhyw fân achosion fel hyn?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni wyddoch mai'r saint sydd i farnu'r byd? Ac os yw'r byd yn cael ei farnu gennych chwi, a ydych yn anghymwys i farnu'r achosion lleiaf?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu oni wyddoch y barna y saint y byd? Ac os bernir y byd o'ch blaen chwi, a ydych chwi yn annheilwng i eistedd mewn barn ar y pethau mwyaf dibwys?