1 Corinthians 6:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any wyddoch y barnwn ni yr Angelion? chwaythach barnu petheu ’sy ’n perthynu tu ac at ein buchedd ni?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Oni wyddoch mai angylion a farnwn? Llawer mwy, ynte, bethau yn perthyn i’r bywyd hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni wyddoch y barnwn ni angylion heb sôn am bethau’r bywyd beunyddiol?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i'r bywyd hwn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi gofio y byddwn ni'n barnu angylion bryd hynny! Felly does bosib nad ydyn ni'n gallu setlo problemau pob dydd ar y ddaear yma!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni wyddoch y byddwn yn barnu angylion, heb sn am bethau'r bywyd hwn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oni wyddoch y barnwn ni angelion, heb ddweyd dim yn wir am bethau y bywyd hwn?