1 Corinthians 6:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chan hyny a’ d oes genwch varneu am betheu ’sy yn perthynu ir vuchedd hon, cadeiriwch yr ei diystyraf yn yr Eccles.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, os pethau yn perthyn i’r bywyd hwn sydd genych i’w barnu, ai y rhai a gyfrifir yn ddiddym yn yr Eglwys, ai y rhai hyn yr ydych yn eu rhoddi ar y faingc?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, o bydd gennych achosion yn perthyn i’r bywyd beunyddiol i’w barnu, ai y rhai hollol ddiddim yng ngolwg yr eglwys — ai y rheiny a osodwch yn sedd barn?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i'r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond na, mae rhyw achos yn codi a dych chi'n gofyn i bobl y tu allan i'r eglwys ddelio â'r mater!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, os bydd gennych achosion fel hyn, a ydych yn gosod yn farnwyr y rhai sydd isaf eu parch yng ngolwg yr eglwys?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os oes gennych gan hynny lysoedd perthynol i bethau y bywyd hwn, y rhai a gyfrifir yn ddim yn yr eglwys, gosodwch y rhai hyn drostynt.