1 Corinthians 6:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er cywilydd yw’ch y dywedaf. Velly any d oes neb doeth yn eich plith chvvi? nac oes vn, a vedr varnu rhwng y broder?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Er codi cywilydd ynoch yr wyf yn dywedyd. Ai felly nad oes yn eich plith ddim un doeth yr hwn fydd abl i farnu rhwng ei frodyr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Er cywilydd i chwi y llefaraf. Onid oes, felly, yn eich plith neb doeth a fydd yn abl i farnu rhwng ei frawd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cywilydd arnoch chi! Oes neb yn eich plith chi sy'n ddigon doeth i ddelio â'r math yma o beth?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn. A yw wedi dod i hyn, nad oes neb doeth yn eich plith fydd yn gallu barnu rhwng cydgredinwyr?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Er eich cywilydd yr wyf yn llefaru wrthych. Ai felly nad oes yn eich mysg neb doeth, yr hwn a all benderfynnu rhwng brodyr,