1 Corinthians 6:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ydd yw‐chwi yn gwneuthur cam, ac yn peri colled, a’ hyny y ’ch brodur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr chwychwi sy’n gwneuthur cam ac yn dwyn oddiar, a hyny i frodyr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr yr ydych chwi yn gwneuthur cam, ac yn ysbeilio, a hynny â brodyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i'r brodyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond na, mae'n well gynnoch chi dwyllo a gwneud cam â phobl eraill — hyd yn oed eich cyd-Gristnogion!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwneud cam yr ydych chwi, peri colled yr ydych, a hynny i gydgredinwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yn wir yr ydych chwi yn gwneuthur cam ac yn cam‐golledu, a hynny, eich brodyr.