1 Corinthians 7:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wrth y relyw mi ’sy yn dywedyt, ac ny d yr Arglwydd, A’s bydd vn brawd a gwreic iddo, eb iddi gredu, a’ hi the yn vod d lon y drigo gyd ac ef, na wrthðodet ef y hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd rhyw frawd a chanddo wraig ddigred, a hithau yn foddlawn i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond wrth y lleill dywedaf — myfi, nid yr Arglwydd — o bydd i ryw frawd wraig anghredadun, a honno yn cydsynio i fyw gydag ef, na ollynged hi ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi‐gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac wrth y gweddill ohonoch chi, dyma dw i'n ddweud (soniodd yr Arglwydd Iesu ddim am y peth): Os oes gan Gristion wraig sydd ddim yn credu ond sy'n dal yn fodlon byw gydag e, ddylai'r dyn hwnnw ddim gadael ei wraig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth y lleill yr wyf fi, nid yr Arglwydd, yn dweud: os bydd gan Gristion wraig ddi-gred, a hithau'n cytuno i fyw gydag ef, ni ddylai ei hysgaru.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr wrth y lleill yr wyf fi yn dywedyd, nid yr Arglwydd, Os bydd rhyw frawd a chanddo wraig ddigred, a hithau yn cytuno i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith: