1 Corinthians 7:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y gwr di‐gred a sainteiddir gan y wreic, a’r wreic ddigred a saincteiddir gan y gwr, a’s amgen, e vyddei eich plant chvvi yn aflan: ac yr owrhō y maent vvy yn sainct aidd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
sancteiddir y gŵr digred trwy’r wraig, a sancteiddir y wraig ddigred trwy’r brawd; pe amgen eich plant fyddent aflan, ond yr awrhon sanctaidd ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys cysegrwyd y gŵr anghredadun yn ei wraig, a chysegrwyd y wraig anghredadun yn y “brawd”; os amgen, dyna’ch plant yn aflan, ond yn awr sanctaidd ydynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y gŵr di‐gred a sancteiddir trwy'r wraig, a'r wraig ddi‐gred a sancteiddir trwy'r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae bywyd y gŵr sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei berthynas â'i wraig o Gristion, a bywyd gwraig sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei pherthynas hi â'i gŵr sy'n Gristion. Petai fel arall byddai eich plant chi'n ‛aflan‛, ond fel hyn, maen nhw hefyd yn lân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r gu373?r di-gred wedi ei gysegru trwy ei wraig, a'r wraig ddi-gred wedi ei chysegru trwy ei gu373?r o Gristion. Onid e, byddai eich plant yn halogedig. Ond fel y mae, y maent yn sanctaidd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae y gŵr digred wedi ei sancteiddio yn y wraig, a'r wraig ddigred wedi ei sancteiddio yn y brawd: pe amgen, yn wir eich plant fyddent aflan, eithr yn awr sanctaidd ydynt.