1 Corinthians 7:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr a’s yr angred‐ ddyn a ymedy, ymadawet: ny d yw brawd neu chwaer yn gaeth yn‐cyfryw betheu. Eithyr Duw a’n galwodd yn‐ tangneddyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os y digred a ymwahana, ymwahaned; nid caeth yw’r brawd, neu’r chwaer, yn y cyfryw bethau, ond mewn heddwch y galwodd Duw ni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os yr anghredadun sydd am ymadael, ymadawed; nid yw’r brawd neu’r chwaer yn gaeth yn y cyfryw, eithr i heddwch y’ch galwodd Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw'r brawd neu'r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a'n galwodd ni i heddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Ond wedyn, os ydy'r gŵr neu'r wraig sydd ddim yn credu yn mynnu gadael y berthynas, gadewch iddyn nhw fynd. Dydy'r partner sy'n Gristion ddim yn gaeth mewn achos felly. Mae Duw am i ni fyw mewn heddwch).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os yw'r anghredadun am ymadael, gadewch i hwnnw neu honno fynd. Nid yw'r gu373?r na'r wraig o Gristion, mewn achos felly, yn gaeth; i heddwch y mae Duw wedi eich galw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os y digred a ymwahana, ymwahaned: nid yw y brawd neu y chwaer yn gaeth yn y cyfryw amgylchiadau: ond mewn heddwch y mae Duw wedi ein galw ni.