1 Corinthians 7:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s galwyt neb un wedy’r enwaedy arnaw? na chascled ei ddienvvaediat: a ’alwyt neb un eb ei enwaedu? nac enwaeder arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac fel hyn yn yr eglwysi oll yr wyf yn ordeinio. Ai wedi ei amdorri y galwyd neb? Nac aed yn ddiamdorredig. Ai mewn diamdorriad y galwyd neb? Nac amdorrer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ai yn enwaededig y galwyd neb? Na cheisied guddio hynny; ai yn ddienwaededig y galwyd neb? Na cheisied enwaedu arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac adgeisied ddienwaediad. A alwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er enghraifft, os oedd dyn wedi bod trwy'r ddefod o gael ei enwaedu cyn dod i gredu, ddylai e ddim ceisio newid ei gyflwr. A fel arall hefyd; os oedd dyn ddim wedi cael ei enwaedu pan ddaeth yn Gristion, ddylai e ddim mynd drwy'r ddefod nawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n enwaededig? Peidied chuddio'i gyflwr. A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n ddienwaededig? Peidied cheisio enwaediad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ai wedi ei enwaedu y galwyd neb? nac ymgeisied fod yn ddienwaededig. Ai mewn dienwaediad y mae neb wedi ei alw? nac enwaeder arno.