1 Corinthians 7:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Enwaediat nyd yw ddim, a’ dienwaediat ny d yw ðim, anyd cadw ad gorchymyneu Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Amdorriad nid yw ddim, a diamdorriad nid yw ddim; eithr cadw gorchymynion Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Enwaediad nid yw ddim na dienwaediad chwaith, eithr cadw gorchmynion Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchmynion Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sdim ots os dych chi wedi cael eich enwaedu neu beidio! Beth sy'n bwysig ydy'ch bod chi'n gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid enwaediad sy'n cyfrif, ac nid dienwaediad sy'n cyfrif, ond cadw gorchmynion Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr enwaediad nid yw ddim, a'r dienwaediad nid yw ddim; ond cadw gorchymynion Duw.