1 Corinthians 7:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ai ath ti yn was ith’alwyt? na vid waeth genyt: anyd a’s gelly gael bot yn rhydd, arver yn gynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai yn gaethwas y’th alwyd? Na fydded gwaeth genyt; eithr os gelli fyned yn rhydd, mwynha hyny yn hytrach, canys yr hwn a alwyd yn yr Arglwydd, ac efe yn gaethwas, gŵr rhydd yr Arglwydd yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ai gwas oeddit pan alwyd di? Na foed hynny yn ddrwg gennyt; ond o gelli ddyfod yn ŵr rhydd, dewis hynny yn hytrach na pheidio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai yn was y'th alwyd? na fydded gwaeth gennyt; eto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wyt ti'n gaethwas? Paid poeni am y peth. Hyd yn oed os ydy'n bosib y byddi di'n rhydd rywbryd, gwna'r defnydd gorau o'r sefyllfa wyt ti ynddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ai caethwas oeddit pan gefaist dy alw? Paid phoeni; ond os gelli ennill dy ryddid, cymer dy gyfle, yn hytrach na pheidio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ai yn gaethwas y'th alwyd? Na ofala: os hefyd y gelli ddyfod yn rhydd, yn hytrach gwna ddefnydd o hynny.