1 Corinthians 7:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys hwn a ’elwir yn yr Arglwydd ac ef yn was, ’sy ’wr‐rhydd yr Arglwydd: yn gyffelyp hefyt yr hwn a ’elwir ac ef yn vvr‐ rhydd, gwas Christ yw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr un ffunud, yr hwn a alwyd, ac efe yn ŵr rhydd, caethwas yw i Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y gŵr a alwyd yn yr Arglwydd ac ef yn gaethwas, gŵr rhyddhäedig yr Arglwydd yw; a’r un modd yr hwn a alwyd ac ef yn rhydd, caethwas Crist ydyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr hwn, ac ef yn was, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i'r Arglwydd ydyw: a'r un ffunud yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd, a alwyd, gwas i Grist yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er bod rhywun yn gaethwas pan ddaeth i gredu, mae'n berson rhydd yng ngolwg yr Arglwydd! A'r un modd, os oedd rhywun yn ddinesydd rhydd pan ddaeth i gredu, mae bellach yn gaethwas i'r Meseia!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y sawl oedd yn gaeth pan alwyd ef i fod yn yr Arglwydd, un rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd, y sawl oedd yn rhydd pan alwyd ef, un caeth i Grist ydyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr hwn a alwyd yn yr Arglwydd, pan yn gaethwas, gŵr rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd yr hwn a alwyd pan yn rhydd, caethwas Crist ydyw.