1 Corinthians 7:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tybiet yð wyf gan hyny vot hyn yn ða er mwyn yr angērait cydrychiol: ’sef mae da i ddyn vot velly.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tybied yr wyf, gan hyny, fod hyn yn dda o achos yr angen presennol, mai da i ddyn yw bod fel y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tybiai gan hynny mai hyn sydd dda oherwydd yr anghenraid sy’n pwyso arnom, sef mai da i ddyn fod fel y mae.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, oherwydd yr anghenraid presennol, mai da, meddaf, i ddyn fod felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am ein bod ni'n wynebu creisis ar hyn o bryd, dw i'n meddwl mai peth da fyddai i chi aros fel rydych chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn fy meddwl i, peth da, yn wyneb yr argyfwng sydd yn pwyso arnom, yw i bob un aros fel y mae.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny yr wyf yn tybied fod hyn yn dda o achos yr angenrhaid presennol, gan ei bod yn dda i ddyn fod felly.