1 Corinthians 7:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr a’ s gwreicy, ny phechi st: ac a’s vn wyry a wra, ny pecha vvdd hi: er hyny cyfryw ’r ei a gant vlinder yn y cnawt: any d mi ach arbedaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na chais wraig. Ond os priodi hefyd, ni phechaist. Ac os prioda gwyryf, ni phechodd; ond blinder yn y cnawd a gaiff y cyfryw rai, ac myfi a’ch arbedwn chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a hyd yn oed pe priodit, ni phechaist; ac o phrioda gwyry, ni phechodd; eithr blinder i’r cnawd a gaiff y cyfryw rai, ond yr wyf i am eich arbed chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os priodi hefyd, ni phechaist: ac os prioda gwyry, ni phechodd. Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond fyddi di ddim yn pechu os byddi di'n priodi; a dydy'r ferch ifanc ddim yn pechu wrth briodi chwaith. Ond mae'r argyfwng presennol yn rhoi parau priod dan straen ofnadwy, a dw i eisiau eich arbed chi rhag hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os priodi a wnei, ni fyddi wedi pechu. Ac os prioda gwyryf, ni fydd wedi pechu. Ond fe gaiff rhai felly flinder yn y bywyd hwn, ac am eich arbed yr wyf fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os priodi hefyd, ni phechaist; ac os prioda gwyryf, ni phechodd: er hynny blinder yn y cnawd a gä y cyfryw rai: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.