1 Corinthians 7:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn a ddywedaf, vroder, can vot yr amser yn vyr, rhac llaw val y bydd ir ei ’sy a gwragedd yddyn, vot vegis pei baent eb‐ ddynt:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond hyn a ddywedaf, frodyr, Yr amser sydd wedi ei fyrhau, fel o hyn allan y bo’r rhai sydd a chanddynt wragedd, fel pe na baent a chanddynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dyma a ddywedaf, frodyr, cwtogwyd yr amser; fel o hyn allan y bo’r rhai â chanddynt wragedd megis pe na bai ganddynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyr. Y mae yn ôl, fod o'r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i am ddweud hyn ffrindiau: mae'r amser yn brin. O hyn ymlaen dim bod yn briod neu beidio ydy'r peth pwysica;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyn yr wyf yn ei ddweud, gyfeillion: y mae'r amser wedi mynd yn brin. Am yr hyn sydd ar l ohono, bydded i'r rhai sydd gwragedd ganddynt fod fel pe baent heb wragedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hynny yr wyf yn ei ddywedyd, frodyr, y mae y tymhor wedi ei gyfyngu, fel o hyn allan y bydd y rhai sydd â gwragedd ganddynt megys pe byddent hebddynt;