1 Corinthians 7:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’r ei a arverant or byt hwn val petaent eb ei arver: can ys ffurf y byt hwn a dynn ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y rhai sy’n arferu’r byd, fel pe na baent yn ei iawn-arferu; canys myned heibio y mae dull y byd hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r rhai sy’n trafod y byd megis pe na baent yn ennill dim o’i drafod; canys myned heibio y mae dull y byd hwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Waeth heb ag ymgolli yn y petheuach sydd gan y byd i'w gynnig, am fod y byd fel y mae yn dod i ben!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'r rhai sy'n ymwneud 'r byd fel pe na baent yn ymwneud ag ef. Oherwydd mynd heibio y mae holl drefn y byd hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r rhai a ddefnyddiant y byd megys heb ei or‐ddefnyddio, canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.