1 Corinthians 7:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mynnwn eich bot yn ddiofal. Yr hwn ’sy eb wreica, a ’ofala am betheu yr Arglwydd, pa wedd y rango vodd yr Arglwyð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond ewyllysiaf i chwi fod heb bryder. Yr hwn sydd heb briodi sydd bryderus am bethau’r Arglwydd, pa wedd y rhynga fodd yr Arglwydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond mynnwn eich bod chwi yn ddibryder. Y mae’r dibriod yn pryderu am bethau’r Arglwydd, pa fodd y bodlono’r Arglwydd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau'r Arglwydd, pa wedd y bodlona'r Arglwydd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ceisio'ch arbed chi rhag poeni'n ddiangen ydw i. Mae dyn dibriod yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd, a sut i'w blesio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Carwn ichwi fod heb ofalon. Y mae'r dyn dibriod yn gofalu am bethau'r Arglwydd, sut i foddhau'r Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A mi a ddymunwn i chwi fod yn ddibryder. Yr hwn sydd yn ddi‐briod sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, pa wedd y boddlona efe yr Arglwydd: