1 Corinthians 7:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y mae gohan ieth hefyt rhwng moddion gwreic a’ gwyry f: yr hon eb wra, a ofala am betheu ’r Arglwydd, y vot o hanei yn sanct aið o gorph ac yspryt: a’ hon a wra h odd, a ’ofala am betheu ’r byt, pa wedd y reng o hi vodd e y gwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y mae gwahaniaeth rhwng y wraig briod a gwyryf; yr hon sydd heb briodi sydd bryderus am bethau’r Arglwydd, fel y byddo sanctaidd yn ei chorph ac yn ei hyspryd hefyd; ond yr hon sydd wedi priodi sydd bryderus am bethau’r byd, pa wedd y rhynga fodd ei gŵr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fe’i rhannwyd. A’r wraig ddibriod a’r forwyn pryderu y maent am bethau’r Arglwydd, fel y bo sanctaidd gorff ac ysbryd; ond yr hon sydd briod, pryderu y mae am bethau’r byd, pa wedd y rhyngo fodd i’w gŵr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae'r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i'r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae'r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i'w gŵr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac mae'n cael ei dynnu'r ddwy ffordd. Mae gwraig sydd bellach yn ddibriod, neu ferch sydd erioed wedi priodi, yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd. Ei nod hi ydy cysegru ei hun yn llwyr (gorff ac ysbryd) i'w wasanaethu e. Ond mae'n rhaid i wraig briod feddwl am bethau'r byd — sut i blesio'i gŵr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac y mae'n cael ei dynnu y naill ffordd a'r llall. A'r ferch ddibriod a'r wyryf, y maent yn gofalu am bethau'r Arglwydd, er mwyn bod yn sanctaidd mewn corff yn ogystal ag ysbryd. Ond y mae'r wraig briod yn pryderu am bethau'r byd, sut i foddhau ei gu373?r.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r wraig sydd ddi‐briod a'r wyryf sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, fel y byddo sanctaidd yn y corph ac yn yr Yspryd hefyd; ond yr hon a briododd sydd bryderus am bethau y byd, pa wedd y gall foddloni ei gŵr.