1 Corinthians 7:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn a ddywedaf er eich lles, ny d er eich ceisio mewn magl, any d er y chvvi ddilyn yr hyn, ysy weddus, a’ glynu yn ’lud wrth yr Arglwydd, yn ddi ’ohan edic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn, er eich lles chwi eich hunain yr wyf yn ei ddywedyd; nid fel y gosodwyf fagl arnoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd, a dyfal-lynu wrth yr Arglwydd heb ddirdynrwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd er eich budd chwi eich hunain, nid i fwrw magl arnoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd, ac fel y boch yn llwyr at alwad yr Arglwydd heb fod dim yn eich croesdynnu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd‐dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud hyn er eich lles chi, dim i gyfyngu arnoch chi. Dw i am i ddim byd eich rhwystro chi rhag byw bywyd o ymroddiad llwyr i'r Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn dweud hyn er eich lles chwi eich hunain; nid er mwyn eich dal yn l, ond er mwyn gwedduster, ac ymroddiad diwyro i'r Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd er lleshâd i chwi eich hunain; nid fel y bwriwyf fagl am danoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd a dyfal-lynu wrth yr Arglwydd heb gythrudd.