1 Corinthians 7:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr a’s tybia neb vot yn anweddus yw wyry f, ad a‐hi dros vlodae ei‐h oedran, a’ bot yn angen rait hyny, gwnaed ef a vynno, ny pecha: prioder hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyryf o ferch, os bydd hi dros flodau ei hoedran, ac os felly y mae rhaid bod, gwnaed yr hyn a ewyllysio: ni phecha; priodont.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond od oes rywun yn barnu ei fod yn ymddwyn yn anweddus tuagat ei wyry, o bydd yn or-nwydus, a rhaid i hynny fod felly, gwnaed a fynno; nid yw’n pechu; priodent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun yn teimlo ei fod yn methu rheoli ei nwydau gyda'r ferch mae wedi ei dyweddïo, a'r straen yn ormod, dylai wneud beth mae'n meddwl sy'n iawn. Dydy e ddim yn pechu trwy ei phriodi hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os oes unrhyw un yn teimlo ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd tuag at ei ddyweddi, os yw ei nwydau'n rhy gryf ac felly bod y peth yn anorfod, gwnaed yn l ei ddymuniad a bydded iddynt briodi; nid oes pechod yn hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os yw neb yn tybied ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd at y wyryf, os bydd o oedran addfed, a bod angenrhaid gwneuthur felly, gwnaed a fynno; nid yw yn pechu; priodent.