1 Corinthians 7:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
And hwn a saiff yn ffyrf yn ei galon, eb angen rait arnaw, ac a meðiant ganto ar ywyllys y h un, a’bwriadu hyn yn ei galon, gadw ei wyry f, da y gwna ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr hwn sy’n sefyll yn sefydlog yn ei galon, heb angenrheidrwydd arno, ac a chanddo awdurdod o ran ei ewyllys ei hun, ac a benderfynodd hyn yn ei galon ei hun, sef i gadw ei wyryf o ferch, da y gwna.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y neb a saif yn ddiysgog yn ei galon, heb fod dan orfod, ond â chanddo lywodraeth ar ei ewyllys ei hun, ac a benderfynodd hyn yn ei galon ei hun, sef cadw ei wyry fel y cyfryw, da y gwnâ.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon, ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydy dyn wedi penderfynu peidio ei phriodi — ac yn gwybod yn iawn beth mae'n ei wneud, a heb fod dan unrhyw bwysau — mae yntau'n gwneud y peth iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y sawl sydd yn aros yn gadarn ei feddwl, heb fod dan orfod, ond yn cadw ei ddymuniad dan reolaeth, ac yn penderfynu yn ei feddwl gadw ei ddyweddi yn wyryf, bydd yn gwneud yn dda.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr hwn sydd yn sefyll yn gadarn yn ei galon, heb angenrhaid arno, ond sydd ganddo awdurdod ar ei ewyllys ei hun, ac a benderfynnodd hyn yn ei galon ei hun, i warchod dros ei wyryf ei hun, efe a wna yn dda.