1 Corinthians 7:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly yr hwn ai rhydd yw phriodi, a wna yn ða, anyd yr hwn ny’s ryð yw phriodi, a wna yn well.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly yr hwn sy’n rhoddi ei wyryf o ferch yn briod, da y gwna; ond yr hwn nad yw yn ei rhoddi yn briod, gwell y gwna.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, ar y naill law, y neb a briodo ei wyry ei hun, da y gwnâ, ac ar y llaw arall, y neb ni phriodo, gwell y gwnâ.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae'r un sy'n priodi ei ddyweddi yn gwneud yn iawn, ond bydd yr un sy'n dewis peidio priodi yn gwneud peth gwell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly bydd yr hwn sydd yn priodi ei ddyweddi yn gwneud yn dda, ond bydd y dyn nad yw'n priodi yn gwneud yn well.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac felly y mae yr hwn sydd yn rhoddi ei wyryf ei hun yn briod yn gwneuthur yn dda; a gwna yr hwn nad yw yn ei rhoddi yn briod yn well.