1 Corinthians 7:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny mwy gwynvydedic yw hi, a’s erys hi velly, yn vy‐barn i: ac ydd wyf yn tybieid vot imi hefyt Yspryt Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn unig yn yr Arglwydd: ond dedwyddach yw os felly yr erys, yn ol fy marn i; a thybiaf fy mod innau hefyd ag Yspryd Duw genyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dedwyddach ydyw od erys fel y mae, yn fy marn i. A thybiaf fod Ysbryd Duw gennyf innau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly, yn fy marn i: ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yn fy marn i byddai'n well iddi aros fel y mae — a dw i'n credu fod Ysbryd Duw wedi rhoi arweiniad i mi yn hyn o beth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond bydd yn ddedwyddach o aros fel y mae, yn l fy marn i. Ac yr wyf yn meddwl bod Ysbryd Duw gennyf fi hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond dedwyddach yw os erys fel y mae, yn ol fy marn i: ac yr wyf yn tybied fod gennyf hefyd Yspryd Duw.