1 Corinthians 7:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na siomwch ddim y gylyð, oddy eithr o gydsynniat dros amser, val y galloch ymroi i vmprydio a’ gweddio, a’ thrachefn dyvot ynghyt rac y Satan eich temto o bleit eich ancymmesurwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na ddygwch oddiar eich gilydd, oddieithr o gydsyniad, am ryw amser, fel y bo genych hamdden i weddi, ac y deuoch trachefn ynghyd rhag temtio o Satan chwi o achos eich anniweirdeb.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na chamateliwch oddiwrth eich gilydd yr hyn sydd ddyledus, oddieithr o gytundeb dros amser, fel y caffoch egwyl i weddi a thrachefn ddyfod ynghŷd, fel na’ch temtio Satan oherwydd eich anymatal.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly peidiwch gwrthod cael rhyw gyda'ch gilydd. Yr unig adeg i ymwrthod, falle, ydy os dych chi wedi cytuno i wneud hynny am gyfnod byr er mwyn rhoi mwy o amser i weddi. Ond dylech ddod yn ôl at eich gilydd yn fuan, rhag i Satan ddefnyddio'ch chwantau i'ch temtio chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch gwrthod eich gilydd, oddieithr, efallai, ichwi gytuno ar hyn dros dro er mwyn ymroi i weddi, ac yna dod ynghyd eto, rhag i Satan eich temtio oherwydd eich diffyg ymatal.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na cham‐attaliwch oddiwrth eich gilydd, oddi eithr o gydsyniad dros dymhor, fel y galloch gael hamdden i weddi, ac fel y byddoch drachefn ynghyd, fel na themtio Satan chwi o herwydd eich anlladrwydd,