1 Corinthians 7:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny y dywedaf wrth yr ei’ sy eb priodi, a’r gvvragedd gweddwon, mae da yw yddynt pe’s aro s ent megis ac ydd vvy vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi a’r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel yr wyf finnau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dywedyd yr wyf wrth y dibriod a’r gwragedd gweddwon, gwiw iddynt aros megis minnau hefyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a'r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i am ddweud hyn wrth y rhai sy'n weddw neu'n ddibriod: Byddai'n beth da iddyn nhw aros yn ddibriod, fel dw i wedi gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn dweud wrth y rhai dibriod, a'r gwragedd gweddwon, mai peth da fyddai iddynt aros felly, fel finnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn dywedyd wrth y rhai di‐briod a'r gwragedd gweddwon: Da iddynt ped arhosent fel myfi.