1 Corinthians 7:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr an ’ys ymgynnaliant, priodent: can ys gwell yw priodi, nac ymlosci.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os na allant ymgadw, priodont, canys gwell yw priodi na llosgi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr oni allant ymatal, priodent, canys gwell priodi nag ymlosgi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os fedran nhw ddim rheoli eu teimladau, dylen nhw briodi. Mae priodi yn well na chael ein difa gan ein nwydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os na allant ymatal, dylent briodi, oherwydd gwell priodi nag ymlosgi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr os na allant ymgadw, priodent: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.