1 Corinthians 8:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC am y petheu a aberthir ir geudduwieu: gwyddom vot genym bawp wybodaeth, gwybodaeth a chwyða, anyd cariat a adaila.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond am y pethau a aberthwyd i eulunod, gwyddom fod pawb o honom a gwybodaeth genym. Gwybodaeth a bair ymchwyddo, ond cariad a adeilada.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Drachefn, parthed yr aberthau i eilunod, gwyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Y mae gwybodaeth yn peri ymchwyddo, eithr cariad yn adeiladu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod, ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I droi at eich cwestiwn am gig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni'n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ynglu375?n bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod, y mae'n wir, fel y dywedwch, "fod gennym i gyd wybodaeth." Y mae "gwybodaeth" yn peri i rywun ymchwyddo, ond y mae cariad yn adeiladu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr ynghylch y pethau a aberthir i eilunod: Ni a wyddom fod gan bawb o honom wybodaeth. Y mae gwybodaeth yn chwyddo, ond y mae cariad yn adeiladu.