1 Corinthians 8:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys a’s gwyl nep di ’sy a gwybodaeth genyt yn eistedd i vwyta yn teml yr eiðolon, any d addyscir cydwybot yr hwn ’sy wan, i vwyta or petheu hyny a aberthwyt ir eiðolon?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys os gwel neb dydi sydd a gwybodaeth genyt, yn lled-orwedd yn nheml eulun, oni fydd i’w gydwybod ef, ac ef yn wan, ei chadarnhâu i fwytta’r pethau a aberthwyd i eulunod?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys o gwêl rhywun dydi, sydd â “gwybodaeth” gennyt, yn eistedd (i fwyta) yn nheml yr eilun, onid “adeiledir” ei gydwybod ef, ag yntau’n wan, nes bwyta aberthau eilunod?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau'n wan, i fwyta'r pethau a aberthwyd i eilunod;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti'n gwybod y ffeithiau — does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i'r person welodd di deimlo'n hyderus, a bwyta cig sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os bydd i rywun dy weld di, sy'n meddu ar "wybodaeth", yn bwyta mewn teml eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod, ac yntau'n wan, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os gwel neb dydi sydd a gwybodaeth gennyt yn eistedd i fwytta yn nheml yr eilun, oni fydd i'w gydwybod ef, ac efe yn wan, ymhyfhâu fel ag i fwytta y pethau a aberthwyd i eilunod?