1 Corinthians 8:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’ chwi yn pechu velly yn erbyn y brodur ac yn briwo ei gwan gydwybot hwynt, ydd y‐wch yn pechu yn erbyn Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac felly, gan bechu yn erbyn y brodyr, a churo eu cydwybod wan hwynt, yn erbyn Crist yr ydych yn pechu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys wrth droseddu yn erbyn y brodyr, a tharo eu cydwybod yn ei gwendid, yn erbyn Crist yr ydych yn troseddu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth wneud i Gristion arall weithredu'n groes i'w gydwybod fel hyn, rwyt ti'n pechu yn erbyn y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth bechu fel hyn yn erbyn eich cydgredinwyr, a chlwyfo'u cydwybod, a hithau'n wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pan yr ydych felly yn pechu yn erbyn eich brodyr, a chlwyfo eu cydwybod a hi yn wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist.