1 Corinthians 8:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd paam a’s trancwydda bwyt vy‐brawt, ny vwytawyf gic yn tragyvythawl, rac ym beri im brawt dramcwyddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, os bwyd a bair dramgwydd i fy mrawd, ni fwyttaf gig byth, fel na bo i mi beri tramgwydd i fy mrawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd hyn, od yw bwyd yn peri i’m brawd dramgwydd, ni fwytâf i gig ddim yn dragywydd, fel na thramgwyddwyf fy mrawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, os ydy beth dw i'n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto — does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, os yw bwyd yn achos cwymp i'm cydgredadun, ni fwytf fi gig byth, rhag i mi achosi cwymp i'm cydgredadun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hynny, os bwyd bair dramgwydd i'm brawd, ni fwyttâf fi gig o gwbl yn dragywydd, fel na bo i mi beri tramgwydd i fy mrawd.