1 Corinthians 8:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a thybia nep y vot yn gwybot peth, ny wyr ef eto ddim val y dyly wybot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr etto fel y dylai wybod:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Od oes neb yn tybied ei fod wedi cael hyd i ryw wybodaeth, nid yw eto’n gwybod fel y dylid gwybod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw'n gwybod dim byd mewn gwirionedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os oes rhywun yn tybio iddo ddod i wybod rhywbeth, nid yw eto'n gwybod fel y dylai wybod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os oes neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr hyd yn hyn fel y dylai wybod;