1 Corinthians 8:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny am vwyt‐a aberthir ir eiddolon, gwyddom nad yw eiddol ddim yn y byt, ac nad oes neb Duw arall, any d vn:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Am fwytta, gan hyny, y pethau a aberthwyd i eulunod, gwyddom nad yw eulun yn ddim yn y byd, ac nad oes Duw oddieithr un.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gyda golwg, felly, ar fwyta o aberthau’r eilunod, “gwyddom nad oes (y fath beth ag) eilun yn y byd, ac nad oes Dduw namyn un.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am fwyta gan hynny o'r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, ydy hi'n iawn i ni fwyta cig sydd wedi ei aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni'n cytuno — “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, ynglu375?n bwyta'r hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, gwyddom nad oes "dim eilun yn y cyfanfyd", ac nad oes "dim Duw ond un."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ynghylch bwytta gan hynny o'r pethau a aberthir i eilunod, yr ydym yn gwybod nad oes eilun yn y byd, ac nad oes Duw ond un.