1 Corinthians 8:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr nyd oes gan bawp gyfryvv wybodaeth: can ys rei a chanthynt gydwybot ir eiðol, yd yr awrhon, a vwytaant val yn peth wedy’ aberthu ir eiðol, ac velly eu cydwybot yn bot yn wan, a halogir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond nid ym mhawb y mae’r wybodaeth; ond rhai trwy eu harferu hyd y pryd hyn i’r eulun, a fwyttant beth megis wedi ei aberthu i eulun; ac eu cydwybod, a hi yn wan, a halogir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr nid ym mhawb y mae gwybodaeth. Canys y mae rhai, oblegid eu cynefindra hyd yr awron â’r eilun, yn bwyta (o’r cig) fel aberth eilun, ac y mae eu cydwybod, â hi’n wan, yn cael ei halogi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o'r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a'u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dydy pawb ddim mor siŵr. Mae eilun-dduwiau wedi bod yn gymaint rhan o fywydau rhai pobl, pan maen nhw'n bwyta'r cig allan nhw ddim peidio meddwl am y ffaith ei fod wedi ei aberthu i ryw dduw paganaidd. Mae eu cydwybod nhw'n cael ei niweidio am ei bod hi'n gydwybod wan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb. Y mae rhai, oherwydd eu bod hyd yma wedi arfer ag eilunod, yn dal i fwyta'r bwyd fel peth wedi ei aberthu i eilunod; ac y mae eu cydwybod, gan ei bod yn wan, yn cael ei llygru.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond nid yw y wybodaeth ym mhawb, eithr rhai trwy eu hymgynefino hyd yn awr â'r eilun, a fwyttânt beth fel wedi ei aberthu i eilun; a'u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.