1 Corinthians 9:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ai ynte ðywet ef hyn yn ollawl er ein mwyn ni? Er ein mwyn ni yn ðioer yð scrivenwyt hyn, bot y hwn a arð o, aredic dan ’obaith: ac y hwn a ddyrno dan ’obeith, vod yn gyfranoc oi ’obaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai dros yr ychen y gofala Duw, neu o’n hachos ni yn hollol y dywaid? O’n hachos ni, yn wir yr ysgrifenwyd, canys mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr ddyrnu mewn gobaith o gyfrannogi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ynteu, ai erom ni yn gwbl y dywed? Canys erom ni yr ysgrifennwyd mai mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr yntau mewn gobaith am gyfranogi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, mai mewn gobaith y dylai'r arddwr aredig, a'r dyrnwr mewn gobaith, i fod yn gyfrannog o'i obaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oedd e ddim yn dweud hyn er ein mwyn ni hefyd? Wrth gwrs ei fod e — dyna pam gafodd ei ysgrifennu. Pan mae rhywun yn aredig y tir neu'n dyrnu'r cynhaeaf, mae'n disgwyl cael cyfran o'r cnwd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid yw'n eglur mai er ein mwyn ni y mae'n ei ddweud? Ie, er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd ef, oherwydd dylai'r arddwr aredig, a'r dyrnwr ddyrnu, mewn gobaith am gael cyfran o'r cnwd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
neu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, gan mai mewn gobaith y dylai yr arddwr aredig, a'r dyrnwr mewn gobaith o gyfrannogi.