1 Corinthians 9:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ d oes eraill yn eich plith yn cahel ran o’r meðiant hvvn, paam yn gynt na d ym ni? er hyny ny d arveresam ni o’r meddiant hwn: any d goðef ydd ym pop dim, rrac y ni rwystro Euangel Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os eraill a gyfrannogant o’r awdurdod hon arnoch, onid mwy nyni a gawn? Eithr nid arferasom yr awdurdod hon; eithr pob peth a oddefwn, fel na roddom neb rhyw rwystr i Efengyl Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Od yw eraill gyfrannog o’r hawl hon arnoch, onid mwy felly nyni? Eithr nid arferasom yr hawl hon; eithr goddefwn bob peth, fel na roddom un rhwystr i efengyl y Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os yw eraill yn gyfranogion o'r awdurdod hon arnoch, onid ydym ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bob peth, fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy eraill yn cael eu cynnal gynnoch chi, mae'n siŵr fod gynnon ni hawl i ddisgwyl hynny! Ond wnaethon ni erioed fanteisio ar yr hawl. Roedden ni'n fodlon dioddef unrhyw beth er mwyn osgoi peri rhwystr i'r newyddion da am y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os oes gan eraill ran yn yr hawl hon arnoch, oni ddylem ni fod mwy? Ond nid ydym wedi arfer yr hawl hon; yn hytrach, yr ydym yn goddef pob peth, rhag inni osod unrhyw rwystr ar ffordd Efengyl Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os yw eraill yn gyfrannogion o'r awdurdod hon arnoch, onid ydym nyni yn hytrach? Etto ni ddefnyddiasom ni yr awdurdod hon, eithr ni a oddefwn bob peth, fel na roddom unrhyw rwystr i efengyl Crist.