1 Corinthians 9:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any wyddoch vvi am yr ei ’sy yn gweithio’ ynghylch petheu sainctaidd, y bot wy yn bwyta o betheu ’r Dempl? a’r ei ’sy yn gwasanaethu’r allor, y bot wy yn gyfranoc gyd a’r allor?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Oni wyddoch am y rhai sy’n offrymmu y pethau cyssegredig, mai y pethau o’r deml a fwyttant; a’r rhai sy’n gwasanaethu’r allor, â’r allor y mae eu cyfran?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni wyddoch chwi fod gwasanaethwyr defodau’r cysegr yn bwyta pethau’r cysegr, a’r rhai sy’n gwasanaethu’r allor yn gyfrannog hefyd â’r allor?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig, yn bwyta o'r cysegr? a'r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor, yn gyd‐gyfranogion o'r allor?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi ddim yn deall fod y rhai sy'n gweithio yn y deml yn cael eu bwyd yn y deml, a'r rhai sy'n gwasanaethu wrth yr allor yn cael cyfran o beth sy'n cael ei offrymu ar yr allor?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni wyddoch fod y sawl sy'n cyflawni gwasanaethau'r deml yn cael eu bwyd o'r deml, a bod y rhai sy'n gweini wrth yr allor yn cael eu cyfran o aberthau'r allor?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oni wyddoch fod y rhai sydd yn ymwneyd â'r pethau cyssegredig yn bwytta o bethau y Deml? y rhai sydd yn gweini ar yr allor, a gydgyfrannogant â'r allor?