1 Corinthians 9:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly hefyt yr ordeiniawdd yr Arglwydd, bot ir ei a precethant yr Euangel, vyw wrth yr Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly hefyd yr Arglwydd a ordeiniodd i’r rhai sy’n cyhoeddi’r Efengyl, mai o’r Efengyl y mae iddynt fyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, ordeiniodd yr Arglwydd hefyd i’r rhai sy’n cyhoeddi’r efengyl fyw ar yr efengyl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r rhai sydd yn pregethu'r efengyl, fyw wrth yr efengyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn union yr un fath, mae'r Arglwydd wedi gorchymyn fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da i gael ennill bywoliaeth drwy'r newyddion da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr un modd hefyd, rhoddodd yr Arglwydd orchymyn i'r rhai sy'n cyhoeddi'r Efengyl, eu bod i fyw ar draul yr Efengyl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl fyw wrth yr efengyl.