1 Corinthians 9:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny mi ny d ym arvereis o ddim o’r petheu hyn: ac ny d scrivenais hynn yma, val y gwnelit velly i mi: can ys gwell vyðei i mi varw, na gwacau o neb vy‐gor voleð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn; ac ni ’sgrifenais y pethau hyn er mwyn felly y gwnelid tuag attaf, canys da i mi farw yn hytrach nag i’m hymffrost gael ei wneuthur yn wag gan neb:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr o’m rhan fy hun, nid arferais i ddim un o’r pethau hyn. Ond nid ysgrifennais y pethau hyn fel y gwnelid felly yn fy achos i, canys dewisach gennyf farw na phe —, fy ymffrost i, ni chaiff neb ei throi’n wegi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr myfi nid arferais yr un o'r pethau hyn: ac nid ysgrifennais y pethau hyn, fel y gwnelid felly i mi: canys gwell yw imi farw, na gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i fy hun ddim wedi manteisio ar fy hawliau o gwbl. A dw i ddim yn ysgrifennu hyn yn y gobaith o gael rhywbeth chwaith! Byddai'n well gen i farw na bod rhywun yn cymryd sail fy ymffrost oddi arna i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid wyf fi wedi manteisio ar ddim o'r hawliau hyn. Ac nid er mwyn cael dim o'r fath i mi fy hun yr wyf yn ysgrifennu hyn. Byddai'n well gennyf farw na hynny. Ni chaiff neb droi fy ymffrost yn wagedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr nid wyf fi wedi arfer un o'r pethau hyn; ond nid ysgrifennais y pethau hyn fel y gwnelid yn y modd hyn i mi; canys da i mi farw yn hytrach na'u harfer — ni wna neb fy ymffrost yn ofer.