1 Corinthians 9:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit a’ s Euangelaf, nyd oes ym ’orvoledd: can ys angen ’sy im gyrru, a’ gwae vy vi, any d Euangelaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys os efengylaf nid oes i mi ymffrost, canys angenrhaid a osodwyd arnaf, canys gwae fydd i mi os nad efengylaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys o phregethaf yr Efengyl, nid ymffrost i mi hynny. Canys anghenraid sy’n gorwedd arnaf; canys gwae fi oni phregethaf yr efengyl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os pregethaf yr efengyl, nid oes orfoledd i mi: canys anghenraid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy hyd yn oed y ffaith fy mod i'n cyhoeddi'r newyddion da ddim yn rhoi sail i mi frolio — does gen i ddim dewis! Mae'n rhaid i mi gyhoeddi'r neges! Allwn i ddim dioddef peidio cael cyhoeddi'r newyddion da!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os wyf yn pregethu'r Efengyl, nid yw hynny'n achos ymffrost i mi, gan fod rheidrwydd wedi ei osod arnaf. Gwae fi os na phregethaf yr Efengyl!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os efengylaf, nid oes i mi ymffrost, canys angenrhaid a osodwyd arnaf; canys gwae sydd i mi, os nad efengylaf.