1 Corinthians 9:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa dal iad vydd ymy gan hyny? sef pan Euangelwyf, bot ymy beri Euangel Christ yn rhat val na chamarverwyf vy awdurdot yn yr Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny, yw’r gwobr i mi? Fel, wrth efengylu, y gwnelwyf yr Efengyl yn ddidraul, er mwyn peidio a llawn-arferu fy awdurdod yn yr Efengyl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa beth, ynteu, ydyw fy nhâl i? Cael, wrth efengylu, osod yr efengyl yn ddi-gost, fel na cham arferwyf fy hawl yn yr efengyl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi, pan efengylwyf, osod efengyl Crist yn rhad, fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly beth ydy'r wobr i mi? Hyn yn syml: Fy mod yn cyhoeddi'r newyddion da i bobl yn rhad ac am ddim, heb fanteisio ar fy hawliau fel pregethwr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth, felly, yw fy nhl? Hyn ydyw: fy mod, wrth bregethu'r Efengyl, yn ei chyflwyno am ddim, heb fanteisio o gwbl ar fy hawl yn yr Efengyl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa beth gan hynny yw fy nhâl? fel gan efengylu y gwnaf yr efengyl yn ddidraul: fel na ddefnyddiwyf i'r eithaf fy awdurdod yn yr efengyl.