1 Corinthians 9:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys cyd bwyf yn yn rhydd ywrth bawp, eto mi am gwneuthym vyhun yn was i bawp, val yr enillwn vwy o hanynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, i bawb y gwnaethum fy hun yn gaethwas fel y rhan fwyaf yr ennillwn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys, a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, i bawb y’m gwneuthum fy hun yn gaeth, fel yr enillwn y rhan fwyaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a'm gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydw, dw i'n rhydd go iawn. Dw i ddim yn gorfod ufuddhau i unrhyw un am eu bod nhw'n talu i mi. Ond ar y llaw arall, dw i'n gwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill cymaint o bobl ag sydd modd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, yr wyf wedi fy ngwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill rhagor ohonynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, mi a wnaethum fy hun yn gaethwas i bawb, fel yr ennillwn y rhan fwyaf.